Annwyl Gyfaill
Effaith Brexit ar Addysg Uwch ac Addysg Bellach
Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cynnal ymchwiliad i Effaith Brexit ar Addysg Uwch ac Addysg Bellach.
Mae’r Pwyllgor yn ystyried dull Llywodraeth Cymru o baratoi ar gyfer Brexit mewn cysylltiad â’r sector Addysg Uwch ac Addysg Bellach yng Nghymru. Er mwyn llywio ein gwaith craffu, rydym yn gofyn am dystiolaeth o ran y tair thema eang ganlynol: canlyniadau dysgwyr a chyflogadwyedd, cynaliadwyedd ariannol a buddsoddi, a chyllid a chydweithredu o ran ymchwil ac arloesi.
Gwahoddiad i gyfrannu i'r ymchwiliad
Hoffai'r Pwyllgor eich gwahodd i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i gynorthwyo â'r ymchwiliad. Yn arbennig, byddai'r Pwyllgor yn croesawu eich ymateb i'r cwestiynau a nodir yn y ffurflen sydd ynghlwm.
Dylech anfon copi electronig o'ch ymateb at: SeneddPPIA@Cynulliad.Cymru
Dylid cyflwyno ymatebion erbyn dydd Gwener 8 Mehefin 2018. Mae’n bosibl na fydd modd ystyried unrhyw ymateb a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.
Canllawiau
Ni ddylai’r dystiolaeth fod yn hwy na phum ochr tudalen A4. Dylid rhifo’r paragraffau, a dylai’r dystiolaeth ganolbwyntio ar y cylch gorchwyl.
Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, dylech roi disgrifiad byr o rôl eich sefydliad.
Gweler y canllawiau i dystion sy’n cyflwyno tystiolaeth i bwyllgorau.
Polisi dwyieithrwydd
Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.
Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.
Datgelu gwybodaeth
Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth yn www.cynulliadcymru.org/cy/help/privacy/help-inquiry-privacy.htm.Gofynnwn ichi sicrhau eich bod wedi ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Manylion cyswllt
Os hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt a ganlyn:
Clerc y Pwyllgor
Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd, CF99 1NA
E-bost: SeneddPPIA@Cynulliad.Cymru
Ffôn: Rhif Ffôn: 0300 200 6565
Yn gywir
Lynne Neagle AC
Cadeirydd